Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Medi 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13483


154

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.31

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC

Dechreuodd yr eitem am 15.02       

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd

Dechreuodd yr eitem am 15.41

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20mya ar ffyrdd cyfyngedig

Dechreuodd yr eitem am 16.14

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol - TYNNWYD YN ÔL

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

</AI6>

<AI7>

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Dechreuodd yr eitem am 17.06

NNDM8350 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 29.8, er mwyn caniatáu i NNDM8349 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni

 

Dechreuodd yr eitem am 17.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM8349 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ynni i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Gorffennaf 2023, a 01 Medi 2023 a 11 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://publications.parliament.uk/pa/bills/cbill/58-03/0340/220340.pdf.

Dogfennau Ategol
Llythyr gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ymateb Llywodraeth Cymru
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Lywodraeth y DU (Seasneg yn unig)
Llythyr gan Lywodraeth y DU at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

36

52

Gwrthodwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

NNDM8342 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8341 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

8       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig

Dechreuodd yr eitem am 17.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM8341 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bill Ardrethu Annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2023 a 1 Awst 2023, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://bills.parliament.uk/bills/3442

Dogfennau Ategol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

10

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NNDM8344 Lee Waters (Llanelli)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol , er mwyn caniatáu i NNDM8343 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Medi 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI11>

<AI12>

9       Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 17.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NNDM8343 Lee Waters (Llanelli)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Mawrth 2023.

Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ar 14 Gorffennaf 2023.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

15

52

Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

10    Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.52.

</AI13>

<AI14>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.57

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Medi 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>